Ymuno â'r Ysgol Uwch
Er mwyn ymuno â’r Ysgol Uwch, disgwylir i ddisgyblion gyflawni:
O leiaf pum gradd A*–C, neu gyfwerth, gan gynnwys o leiaf radd C yn y Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Ar gyfer pynciau Safon Uwch AS/Safon Uwch – gradd B neu uwch yn y pwnc TGAU perthnasol.
Ar gyfer pynciau galwedigaethol – gradd C neu uwch yn y pwnc TGAU perthnasol.
Ar gyfer pynciau nad ydynt wedi’u hastudio o’r blaen ar lefel TGAU, bydd graddau Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, graddau mathemateg/rhifedd a phroffil TGAU cyffredinol y disgybl yn cael eu hystyried.



